Cyfle Prentisiaeth Gwyddor Data yn Archwilio Cymru
Amdanom Ni: Archwilio Cymru yw corff archwilio'r sector cyhoeddus yng Nghymru, sy'n ymroddedig i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n dda. Rydym yn darparu sicrwydd annibynnol ac yn hyrwyddo gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru.
Y Cyfle:
Ydych chi'n cael eich sbarduno gan niferoedd, tueddiadau a graffiau? Oes gennych chi ddiddordeb mewn codio cyfrifiadurol? Hoffech chi gael y cyfle i ennill tra byddwch chi'n dysgu?
Os yw'r ateb yn gadarnhaol i unrhyw un o'r uchod, gallai'r Brentisiaeth Gwyddor Data yn Archwilio Cymru fod yn berffaith i chi.
Mewn byd sy'n cael ei lywio fwyfwy gan ddata, gallai prentisiaeth mewn gwyddor data eich gosod ar wahân i'r gystadleuaeth yn eich gyrfa yn y dyfodol.
Mae ein rhaglen tair blynedd arloesol, wedi'i hariannu'n llawn, yn darparu cyfle unigryw i ddod yn ddadansoddwr medrus.
Nid cyfle yn unig i rywun sy'n dechrau yn y byd gwaith yw hwn. Efallai eich bod yn chwilio am newid gyrfa. Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran oedran. Mae'r brentisiaeth yn rhaglen tair blynedd wedi'i hariannu'n llawn sy'n eich ategu i ennill gradd mewn gwyddor data tra'n datblygu profiad gwerthfawr yn y swydd.
Byddwch yn ennill ystod gynhwysfawr o sgiliau a phrofiadau dadansoddol, tra'n cyfrannu'n weithredol at waith pwysig Archwilio Cymru.
Cyfrifoldebau allweddol:
Bydd y prentis yn gweithio yn y tîm Dadansoddi Data, sy'n gyfrifol am wella pob agwedd ar y ffordd y mae Archwilio Cymru yn defnyddio data. Yn eich swydd byddwch yn ymuno â thîm heini sydd â chysylltiadau agos â phob rhan o'r busnes. O ddydd i ddydd, byddwch yn cymryd rhan mewn cyflawni'r swyddogaethau craidd hyn:
Yr hyn yr ydym yn ei gynnig:
Pecyn cyflog a budd-daliadau
Gofynion hanfodol:
Sut i wneud cais:
I wneud cais, allech gwblhau’r ffurflen gais ar-lein ar ein gwefan, gan sicrhau eich bod yn nodi'r HOLL ofynion addysgol, gorffennol a chyfredol. Ceir rhagor o wybodaeth am y swydd a chymhwysedd ar ein gwefan. I gael trafodaeth anffurfiol am y cyfle cyffrous hwn, cysylltwch â Steve Lisle ar 07791 007147 neu Helen Goddard ar 02920 320642. Ffoniwch rhwng 9 o’r gloch yb a 5 o’r gloch yp ar ddyddiau'r wythnos.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar 18 Mehefin 2025. Ar ôl sifft o geisiadau ar-lein, caiff ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gymryd rhan mewn profion seicometrig a eu gwahodd i asesiad sy'n cynnwys cyflwyniad, cyfweliad ac ymarfer technegol. Rydym yn bwriadu cynnal asesiadau ar 7 a 8 Gorffennaf 2025. Caiff yr holl asesiadau a chyfweliadau eu cynnal yn bersonol yn ein Swyddfa yng Nghaerdydd.
Wrth wneud cais ar-lein cofiwch bwyso'r botwm parhau ar ôl cyflwyno'ch cais – unwaith y byddwch wedi gwneud hyn fe gewch gydnabyddiaeth i gadarnhau bod eich cais wedi'i gyflwyno. Os na fyddwch yn derbyn cydnabyddiaeth, cysylltwch â'n Tîm Adnoddau Dynol ar unwaith ar 02920 320500 neu drwyAdnoddauDynol.Cyflogres@archwilio.cymru
Sylwer: nid ydym yn gallu noddi fisas gwaith.
Os ydych yn awyddus i ddechrau eich gyrfa ym maes archwilio a chael effaith gadarnhaol ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych!