Ydych chi am ein helpu i gyflawni newid sefydliadol yn fwy effeithiol? Nod ein gwaith yw gwella gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru ac rydym yn chwilio am rywun i'n helpu ni i wella hefyd.
Rydym am benodi Rheolwr Prosiect Newid a fydd yn gyfrifol am ymgorffori newid a rhagoriaeth rheoli prosiect, trwy'r prosiectau y byddwch yn eu rheoli'n uniongyrchol a Rhaglen Newid WAO y byddwch yn dylanwadu arnynt. Mae hon yn rol newydd sbon a byddwch yn helpu i wella aliniad prosiectau corfforaethol a'n huchelgeisiau strategol.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymgymryd ag amrywiaeth o waith a fydd yn cynnwys
- Rheoli prosiect un neu fwy o brosiectau penodol drwy gydol y cylch bywyd o syniad i wireddu'r manteision, er mwyn sicrhau bod amcanion a manteision busnes yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus.
-Cydweithio a gwasanaethau perthnasol Swyddfa Archwilio Cymru, datblygu achosion busnes rhagorol ar gyfer newid, gweithredu cynlluniau prosiect, amserlenni a chyllidebau o ansawdd uchel er mwyn sicrhau bod canlyniadau'r prosiect yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus o fewn cyfyngiadau amser a chyfyngiadau o ran ansawdd, ystyried yn llawn yr effeithiau a chwblhau asesiadau o barodrwydd busnes ar gyfer newid.
-Cefnogi'r cynllunio strategol ar brosiectau a rhaglenni i sicrhau bod portffolio cydlynol, cydlynus o newidiadau a fydd yn cyflawni amcanion strategol SAC.
-Gweithredu fel arbenigwr pwnc ar gyfer rheoli prosiectau a newid, datblygu prosesau a'r diwylliant sy'n angenrheidiol i sefydlu SAC fel canolfan rhagoriaeth rheoli newid.
Penodiad tymor sefydlog o ddwy flynedd, gyda'r posibilrwydd o gael swydd barhaol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad y mae eu hangen yn y disgrifiad swydd
NODER: Cynhelir y ganolfan asesu ar 12 Rhagfyr.
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu megis pobl o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig a phobl anabl. Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gyflogwr hyblyg.