A oes gennych ddiddordeb yny ffordd mae arian cyhoeddus yn cael ei wario yng Nghymru a brwdfrydedd i wneudgwahaniaeth? A ydych am gael gyrfa sy'n cyfrif? Os felly, efallai mai einRhaglen Graddedigion yw'r union beth rydych yn chwilio amdano!
Os byddwch yn dewis ymunoa ni byddwch yn cael eich cefnogi'n llawn i gyflawni cymhwyster cyfrifyddiaethICAEW sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol ac sydd wedi cael canmoliaeth fawr.
A chithau'ngweithio gyda nifer o dimau ar draws Swyddfa Archwilio Cymru, byddwch yn caelcyfle i feithrin gwybodaeth a phrofiad mewn agweddau amrywiol ar ein gwaitharchwilio ariannol a pherfformiad.
Yn ogystal, maeein Rhaglen Graddedigion yn gyfle unigryw i ymgymryd a secondiadau; gallai hynfod yn fewnol neu ar draws y Sector Cyhoeddus ehangach ac i sefydliadau erailla ariennir yn gyhoeddus. Rydym yn cwmpasu Cymru gyfan ac fel aelod o staffarchwilio bydd disgwyl ichi deithio i swyddfeydd cleientiaid amrywiol.
Beth bynnag yw eich disgyblaeth gradd, rydym yn chwilio am unigolion a chefndiracademaidd cryf sy'n ymrwymedig i wella gwasanaethau'r sector cyhoeddus ac sy'ngweld eu hunain fel arweinwyr y dyfodol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Maegennym ddiddordeb gwirioneddol ym mhwy ydych chi, eich cryfderau a'chpotensial.
Ceir rhagor o wybodaetham y sgiliau a'r galluoedd sy'n ofynnol ar gyfer y rol ar ein tudalennau disgrifiadswydd, manyleb y swydd a Rhaglen Graddedigion.
Gan ein bod yngwneud y rhan fwyaf o'n gwaith drwy gyfrwng y Saesneg, bydd yr ymarferion addefnyddir yn ein proses asesu yn cael eu cynnal yn Saesneg hefyd. Fodd bynnag,gallwn ddarparu cyfarwyddiadau'r ymarfer asesu yn Gymraeg. Os hoffech ielfennau cyfweliad y broses gael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, rhowch wybodinni a rhoddir trefniadau priodol yn eu lle.
**Pan rydych chi'n llenwi'ch ffurflen gais, allech chi sicrhau eich bod chi'n rhestru pob cymhwyster a gafwyd gennych (gan gynnwys Gradd, Safon 'A' a TGAU) ynghyd a'r graddau)**