Ydych chi am gael effaith positif ar wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a sicrhau bod arian cyhoeddus yn gyfrif?
Mae'n amser gwych i ymuno a'r tim Adnoddau Dynol wrth i ni fynd drwy gyfnod cyffrouso newid a thrawsnewid.
Ni'n awyddus i recriwtio Gweinyddwr Adnoddau Dynol rhan-amser (17.5 awr yr wythnos) yn barhaol yn ein tim Adnoddau Dynol. Cyflog yw GBP 19,651-GBP 22,983. Band cyflog 1 yn cychwyn ar isafswm band.
Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi dyletswyddau gweinyddol y tim adnoddau dynol ac yn ymateb i ymholiadau defnyddwyr gwasanaethau. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn ymgymryd ag amrywiaeth o waith a fydd yn cynnwys:
- Defnyddio'r system Adnoddau Dynol yn llawn i reoli prosesau trafodiadol;
- Diweddaru newidiadau o ran staff yn y system Adnoddau Dynol;
- Trefnu a chynnal taenlenni cyflogres electronig i'w hymgorffori yn y gyflogres fisol.
- Cefnogi'r tim Adnoddau Dynol i weinyddu ymgyrchoedd recriwtio ac i weinyddu gweithgareddau dysgu a datblygu.
Mae hon yn swydd barhaol ar sail ran-amser, sef 17.5 awr yr wythnos.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen yn y swydd-ddisgrifiad.
NODER: Cynhelir y ganolfan asesu ar 8/9, Awst 2019.
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb,gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu megis pobl o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig a phobl anabl. Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gyflogwr hyblyg.