A oes gennych sgiliau rhyngbersonol gwych a brwdfrydedd dros wella gwasanaethau cyhoeddus?Yna fe allai swydd yn ein Tim Cyfnewidfa Arfer Da fod yr un i chithau. Fel Swyddog Cyfnewid Gwybodaeth byddwch yn defnyddio'ch sgiliau rhyngbersonol i ymchwilio a chael mewnwelediad sy'n allweddol i gyflawni ein rhaglen o ddigwyddiadau. Byddwch yn creu cynnwys gwybodaeth sy ' n werthfawr ac ynddefnyddiol i randdeiliaid allweddol ac a all ddylanwadu ar newid ar draws y sector cyhoeddus. Bydd angen i chi reoli sawl digwyddiad ar yr un pryd A allaifod ar wahanol gamau yn y broses o gynllunio, cyflwyno neu rannu gwybodaeth arol y digwyddiad.
Bydd angen i chi ddysgu'n gyflym ac addasu i heriau newydd. Gallai'r ystod eang o'r hyn yr ydym yn ei gwmpasu olygu newid rhwng pynciau mor amrywiol a seiberddiogelwch a gweithio mewn partneriaeth rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn yr un prynhawn!. Bydd angen i chi ddangos sut rydych yn addasu i ddysgu am bynciau newydd yn gyflym.
Mae meithrin cydberthnasau y gellir ymddiried ynddynt yn rhan allweddol o'n llwyddiant, ac mae ein rhanddeiliaid yn barod irannu'r hyn a wyddant, oherwydd eu bod yn ymddiried ynom. Mae ein rhanddeiliaid yn cynnwys cydweithwyr archwilio o fewn Swyddfa Archwilio Cymru, ac ystod eang o bartneriaid ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat, a'r 3ydd sector. Bydd angen i chi ddweud wrthym am sut rydych chi wedi gweithio'n llwyddiannus iddatblygu perthnasoedd dibynadwy.
Yn olaf, rydym yn ceisio gwella'r hyn a wnawn yn gyson. Rydym am weld amgylchedd lle mae pobl yn gweithio'n llwyddiannus gyda'i gilydd i gyflawni nodau drwy fod yn barod i herio'n adeiladol a chael eu herio.Bydd yn rhaid i chi ddweud wrthym am enghreifftiau sy'n dangos sut rydych wedi cyfrannu at y math hwn o amgylchedd.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cyfrifoldebau,y sgiliau a'r profiad angenrheidiol yn y swydd-ddisgrifiad. Am drafodaeth anffurfiol am y swydd cysylltwch a'r Pennaeth Cyfnewidfa Arfer Da, Chris Bolton ar 029 20320662 neu 07879 848667
NODWCH: bydd y ganolfan asesu ddydd Gwener 13egMedi 2019