Ydych chi’n angerddol, egnïol ac ag ymrwymiad i wella bywydau dinasyddion Cymru? Efallai bod gyrfa yn hyfforddi fel cyfrifydd siartredig yn Archwilio Cymru, corff gwarchod sector cyhoeddus Cymru, yw'r un i chi! Rydym yn chwilio am arweinwyr y dyfodol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru; ac mae gennym ddiddordeb gwirioneddol ym mhwy ydych chi, eich cryfderau a'ch potensial. Mae gennym swyddi gwag ar hyn o bryd yn ein Tîm y Gogledd
Byddwch yn dilyn rhaglen hyfforddi tymor penodol o bedair blynedd i fod yn gyfrifydd siartredig gyda Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW). Byddwch yn gweithio gyda'n timau ledled Cymru i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau archwilio ac yn helpu i graffu ar wasanaethau cyhoeddus a'u gwella.
Yn ogystal, mae ein Rhaglen Graddedigion yn gyfle datblygu unigryw i ymgymryd â secondiadau; gallai hyn fod yn fewnol neu ar draws y Sector Cyhoeddus ehangach ac i sefydliadau eraill a ariennir yn gyhoeddus ac ennill cymhwyster lefel 3 o Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
Mae cyrff cyhoeddus yn y Gogledd wedi’u gwasgaru o’r gorllewin i’r dwyrain ond mae ein tîm fel arfer yn gweithio ble maent yn byw, er ar hyn o bryd, oherwydd COVID-19, rydym yn parhau i weithio o adref gydag ond 1-2 diwrnod yn y swyddfa. Gallwch fod yn gweithio gyda chynghorau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a gwasanaethau Heddlu a Thân Gogledd Cymru – dyma ond blas o’r hyn y gallwch ei brofi.
Fodd bynnag, gallwn warantu na fydd dau ddiwrnod yr un fath a byddwch yn ymuno â sefydliad sydd wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad arweinwyr cyllid y dyfodol.
Ceir rhagor o wybodaeth am y swydd yn ein pecyn recriwtio.
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd ffoniwch naill ai Matthews Edwards ar 02920 320663 neu Sian Grainger ar 020 2032 0547.
Er bod y swydd hon yn elwa ar hyn o bryd ar lwfans teithio blynyddol ychwanegol sy'n daladwy bob mis (yn amodol ar gymhwysedd), mae'r lwfans hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd.
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog pawb i wneud cais, gan gynnwys grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd megis pobl o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig a phobl anabl.
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gyflogwr hyblyg