Mae Archwilio Cymru yn recriwtio ar gyfer swydd Rheolwr Archwilio parhaol yn ein Tîm Archwilio Ariannol.
Dewch i weithio gyda ni, i gyflawni gwaith archwilio ac i helpu i graffu ar wasanaethau cyhoeddus, a’u gwella. Rydym yn dîm brwdfrydig ac mae darparu sicrwydd a gwella gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru yn bwysig i ni.
Bydd y deiliad llwyddiannus yn gyfrifol am y broses o archwilio cyfrifon ariannol ar gyfer portffolio o sefydliadau sector cyhoeddus a leolir yn rhanbarth Gogledd Cymru.
Mae lleoliad y swydd yn hyblyg er y rhagwelir y bydd angen cyflawni gwaith archwilio yng Ngogledd Cymru, pan fydd amgylchiadau’n caniatáu hynny.
Hysbysebir y swydd yn un lle mae’r Gymraeg yn hanfodol.
Mae deiliad y swydd yn atebol i’r Cyfarwyddwr Archwilio ar gyfer rheoli a chyflawni prosiectau archwilio ariannol.
Mae’r prif ddyletswyddau’n cynnwys:
Yn Archwilio Cymru, mae ein gwerthoedd a’n hymddygiad yn diffinio’r ffordd yr ydym yn gweithio a sut yr ydym yn gweithio gyda’n gilydd i gyflawni ein hamcanion. Mae ein holl bobl wedi ymrwymo’n llwyr i arddangos ein gwerthoedd a’n hymddygiad, fel y gallwn weithio gyda’n gilydd yn effeithiol a gwneud penderfyniadau da. Maent yn ein helpu i fod y gorau y gallwn fod ac yn sicrhau bod gennym y sgiliau a’r profiadau iawn yn y
lleoedd iawn.
Mae ein gwerthoedd a’n hymddygiad wedi eu cynllunio gan staff i helpu i gynyddu amrywiaeth ein gweithlu ac i ddatblygu diwylliant hyfforddi er mwyn sicrhau amodau ffyniannus ar gyfer llwyddiant sefydliadol.
Gofynnwn i’r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu’n llawn at y broses o feithrin diwylliant cadarnhaol a’n helpu i dyfu drwy fyw ein gwerthoedd a’n hymddygiad
Mae rhagor o wybodaeth am y cyfrifoldebau, y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen ar gael yn y disgrifiad o’r swydd. I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Derwyn Owen ar 029 20320500
Sylwer: ar hyn o bryd, bydd ein swyddfeydd ar gau tan fis Ionawr 2021, a bydd yr holl gyfweliadau ac asesiadau ar gyfer y swydd hon yn cael eu cynnal yn rhithwir. Mae asesiadau’n debygol o ddigwydd yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 4 Ionawr 2021.
Mae Archwilio Cymru yn croesawu ac yn annog ceisiadau oddi wrth bawb, gan gynnwys grwpiau nas cynrychiolir yn ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd, megis pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl anabl.
Mae Archwilio Cymru’n gyflogwr hyblyg.