Mae'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol yn gwahodd ceisiadau am Swyddog Iaith Gymraeg o fewn y Tim Cyfathrebu - dros dro am 24 mis - rhoddir ystyriaeth i gyfle secondio.
Bydd y Swyddog Iaith Gymraeg yn gyfrifol am gynllunio a chydlynu gweithgareddau'n ymwneud a'r Gymraeg ar ran y sefydliad, gan gynnwys paratoi adroddiadau.
Bydd y Swyddog Iaith hefyd yn bwynt cyswllt allweddol i Swyddfa Archwilio Cymru gyda Chomisiynydd y Gymraeg, a bydd yn arwain ac yn ymateb i ddatblygiadau deddfwriaethol, strategol a thechnegol yn ymwneud a'r Gymraeg a'r diwydiant cyfieithu.
Bydd natur y gwaith o fewn y swydd hon yn gofyn am amrywiaeth eang o sgiliau yn ogystal a gallu i ddatblygu a chynnal perthnasau gweithio positif a phroffesiynol gyda staff Swyddfa Archwilio Cymru a rhanddeiliaid, gan gynnwys y Pwyllgor Rheoli ac aelodau'r Bwrdd. Nodir yr anghenion o ran y prif gyfrifoldebau, sgiliau a phrofiad yn y swydd ddisgrifiad.