Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu hynod greadigol i ymuno â'n tîm sydd wedi ennill gwobrau.
Rydym angen awdur rhagorol sydd â llygad am stori ac yn deall pa gynnwys a sianelau sy'n ennyn diddordeb ein cynulleidfaoedd gwahanol.
Ai chi yw hyn?
Ydych chi'n angerddol, yn drefnus ac yn fedrus yn ddigidol a gyda fideo? Oes gennych chi brofiad o gydlynu digwyddiadau a/neu weithio yn y cyfryngau?
Oes gennych chi ddawn ysgrifennu blogiau, datganiadau i'r wasg a chopi gwe? Ydych chi wedi gweithio ar ymgyrchoedd mewnol ac allanol?
Os felly, byddem wrth ein bodd cael clywed gennych.
Rydym am gael swyddog cyfathrebu aml-dalentog, gyda diddordeb mewn gweithio mewn amgylchedd prysur a buddiol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen yn y swydd-ddisgrifiad. Am drafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Claire Power, yr Uwch Swyddog Cyfathrebu, ar 029 20320578.
NODER: Bydd y ganolfan asesu yn cael ei rhedeg yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 16 Tachwedd 2020.
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu megis pobl o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig a phobl anabl.
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gyflogwr hyblyg.