Rydym yn edrych am unigolyn profiadol o fewn cysylltiadau cyhoeddus i weithio fel Swyddog Cyfathrebu o fewn ein tim gwobrwyedig.
Oes gennych chi'r ddawn o ddenu pobl at gynnwys gwych gan ddefnyddio'r sianel fwyaf priodol?
Os oes gennych brofiad o gydlynu digwyddiadau a chynhyrchu fideos, hoffwn glywed gennych.
Os oes diddordeb gennych weithio mewn amgylchedd prysur a gwobrwyol ac rydych yn dalentog ac amryddawn, hon yw'r swydd i chi.
Bydd y sawl llwyddiannus yn cydlynu gweithgareddau cyswllt cyhoeddus a chyfathrebu'r holl adroddiadau cenedlaethol gan drafod a'r cydlynydd cyhoeddi i gadarnhau amserlenni, bod unrhyw weithgaredd cyfathrebu yn gyson a'r broses cyhoeddi a bod yna swyddog cyfathrebu yn arwain ar gyfathrebiadau pob adroddiad.
Bydd natur y gwaith o fewn y swydd hon yn gofyn am amrywiaeth eang o sgiliau yn ogystal a chynghori a chynorthwyo gydag ymholiadau cymhleth gan y cyhoedd, newyddiadurwyr a rhanddeiliaid eraill. Bydd y sawl llwyddiannus hefyd yn hyrwyddo'n gwaith trwy ddigwyddiadau a gweithgareddau cyswllt cyhoeddus, cyfryngau digidol a marchnata.
Nodir yr anghenion o ran y prif gyfrifoldebau, sgiliau a phrofiad yn y swydd ddisgrifiad. I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd cysylltwch a Rachel Moss ar 02920320521 neu 07813 821530.
NODER: Cynhelir y ganolfan asesu yn ystod yr wythnos yn dechrau Gorfennaf 10fed 2017.