Mae Archwilio Cymru yn recriwtio ar gyfer swydd Arweinydd Archwilio parhaol yn ein Tîm Archwilio yng Ngogledd Cymru.
Dewch i weithio gyda ni, i gyflawni gwaith archwilio ac i helpu i graffu ar wasanaethau cyhoeddus, a’u gwella. Rydym yn dîm brwdfrydig ac mae darparu sicrwydd a gwella gwasanaethau i bobl Gogledd Cymru yn bwysig i ni.
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn gyfrifol am y gwaith o ddydd i ddydd o ddarparu portffolio o archwiliadau ariannol a phrosiectau archwilio eraill ar gyfer sefydliadau sector cyhoeddus yn rhanbarth Gogledd Cymru.
Mae deiliad y swydd yn atebol i’r Rheolwr Archwilio a’r Cyfarwyddwr o ran cyflawni archwiliadau ariannol.
Mae’r prif ddyletswyddau’n cynnwys:
Mae Archwilio Cymru yn lle gwych i weithio ynddo.
Mae ein gwerthoedd a’n hymddygiad yn diffinio’r ffordd yr ydym yn gweithio a sut yr ydym yn gweithio gyda’n gilydd i gyflawni ein hamcanion. Mae ein holl bobl wedi ymrwymo’n llwyr i arddangos ein gwerthoedd a’n hymddygiad, fel y gallwn weithio gyda’n gilydd yn effeithiol a gwneud penderfyniadau da. Maent yn ein helpu i fod y gorau y gallwn fod ac yn sicrhau bod gennym y sgiliau a’r profiadau iawn yn y lleoedd iawn. Mae ein gwerthoedd a’n hymddygiad wedi eu cynllunio gan staff i helpu i gynyddu amrywiaeth ein gweithlu ac i ddatblygu diwylliant hyfforddi er mwyn sicrhau amodau ffyniannus ar gyfer llwyddiant sefydliadol. Gofynnwn i’r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu’n llawn at y broses o feithrin diwylliant cadarnhaol a’n helpu i dyfu drwy fyw ein gwerthoedd a’n hymddygiad.
Lleolir y swydd yn rhanbarth Gogledd Cymru er y byddwn yn parhau i weithio o gartref yn bennaf tra bod cyfyngiadau COVID-19 yn parhau i fod ar waith. Byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn fuddiol ond nid yw’n hanfodol.
Mae rhagor o wybodaeth am y cyfrifoldebau, y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen ar gael yn y disgrifiad o’r swydd. I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch ag Amanda Hughes ar 029 20320500
Sylwer: ar hyn o bryd, bydd ein swyddfeydd ar gau tan fis Ionawr 2021, a bydd yr holl gyfweliadau ac asesiadau ar gyfer y swydd hon yn cael eu cynnal yn rhithwir. Mae asesiadau’n debygol o ddigwydd yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 11 Ionawr 2021.
Mae Archwilio Cymru yn croesawu ac yn annog ceisiadau oddi wrth bawb, gan gynnwys grwpiau nas cynrychiolir yn ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd, megis pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl anabl.
Mae Archwilio Cymru’n gyflogwr hyblyg, ac rydym yn annog gweithio’n ddoethach.