Dewch i ennill cyflog wrth ddysgu gydag Archwilio Cymru. Rhowch eich gyrfa ar ben ffordd gyda dewis yn lle’r brifysgol ond gyda’r un rhagolygon hirdymor.
Bydd ein Rhaglen Brentisiaeth Archwilio Ariannol yn eich helpu i ennill cymhwyster cyllid hynod gydnabyddedig gan y Gymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT). Gallwch ddilyn rhaglen brentisiaeth dros gyfnod penodedig o dair blynedd gan weithio gyda’n timau ledled Cymru, i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau archwilio a helpu i graffu ar wasanaethau cyhoeddus a’u gwella – o gynghorau i fyrddau iechyd lleol, yr Heddlu a Gwasanaethau Tân, byddwch yn cael y cyfle i weithio ar draws ystod eang o gyrff.
Fel lle i weithio – rydyn ni ychydig yn wahanol. Mae gennym feddwl mawr o’n pobl, ac rydym yn cynnig diwylliant croesawgar ac amgylchedd sy’n eu hannog i daro cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Ar ben hynny, byddwch yn gweithio mewn sefydliad lle mae ein gwaith yn helpu i wneud gwahaniaeth i’n gwasanaethau cyhoeddus a’n cymunedau yng Nghymru.
Ar hyn o bryd mae gennym rolau gwag yn gweithio yn ein:
Ceir rhagor o fanylion am y rôl, cymhwystra a sut i wneud cais yn y pecyn recriwtio.
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd ffoniwch Sian Grainger ar 07814 604515
SYLWER: Gallai dyddiadau’r asesiadau gael eu hadolygu ac mae’n bosibl y byddant yn cael eu cynnal ar-lein o ystyried y pandemig COVID-19 ar hyn o bryd