Ydych chi’n angerddol, egnïol ac ag ymrwymiad i wella bywydau dinasyddion Cymru? Efallai bod gyrfa yn hyfforddi fel cyfrifydd siartredig yn Archwilio Cymru, corff gwarchod sector cyhoeddus Cymru, yw'r un i chi! Rydym yn chwilio am arweinwyr y dyfodol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru; ac mae gennym ddiddordeb gwirioneddol ym mhwy ydych chi, eich cryfderau a'ch potensial.
Byddwch yn dilyn rhaglen hyfforddi tymor penodol o bedair blynedd i fod yn gyfrifydd siartredig gyda Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW). Byddwch yn gweithio gyda'n timau ledled Cymru i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau archwilio ac yn helpu i graffu ar wasanaethau cyhoeddus a'u gwella.
Yn ogystal, mae ein Rhaglen Graddedigion yn gyfle datblygu unigryw i ymgymryd â secondiadau; gallai hyn fod yn fewnol neu ar draws y Sector Cyhoeddus ehangach ac i sefydliadau eraill a ariennir yn gyhoeddus ac ennill cymhwyster lefel 3 o Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
Mae cyrff cyhoeddus wedi’u lleoli ledled Cymru ac fel hyfforddai bydd disgwyl i chi deithio i swyddfeydd cleientiaid amrywiol o ar draws Cymru. Er ein bod yn ceisio sicrhau eich bod yn gweithio'n agos i ble rydych chi'n byw, allwn ni ddim gwarantu hyn. Fodd bynnag, gallwn warantu na fydd dau ddiwrnod yr un fath a byddwch yn ymuno â sefydliad sydd wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad arweinwyr cyllid y dyfodol.
Ceir rhagor o wybodaeth am y swydd yn ein pecyn recriwtio.
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd ffoniwch Sian Grainger ar 020 2032 0547.