Ydych chi am gael effaith positif ar wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a sicrhau bod arian cyhoeddus yn gyfrif?
Mae'n amser gwych i ymuno a'r tim Adnoddau Dynol wrth i ni fynd drwy gyfnod cyffrous o newid a thrawsnewid.
Ni'n awyddus i recriwtio Swyddog Adnoddau Dynol rhan-amser (21 awr yr wythnos) ynbarhaol yn ein tim Adnoddau Dynol. Cyflog yw GBP 25,096- GBP 30,402. Band cyflog 2 yn cychwyn ar isafswm band.
Mae hwn yn gyfnod gwych iymuno a'n tim adnoddau dynol bach a phrysur gan ein bod ynghanol cyfnod cyffrous o newid a thrawsnewid. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn ymgymryd ag amrywiaeth o waith a fydd yn cynnwys:
- Rhoi cyngor ac arweiniad proffesiynol i'n cyflogeion a'n rheolwyr ynghylch amrywiaeth o faterion Adnoddau Dynol
- Datblygu perthynas waith effeithiol a'n cwsmeriaid gan sicrhau yr adlewyrchir eu hanghenion yn y gwasanaeth a ddarperir gennym ni a chynnig ffyrdd o wella'n rhagweithiol;
- Defnyddio ein systemau Adnoddau Dynol a rheoli dogfennau i sicrhau bod gwybodaeth staff yn gywir;
- Cefnogi'r tim i ddatblygu a chyflwyno Gwaith, a gwella dealltwriaeth cydweithwyr o bolisiau Adnoddau Dynol.
Mae hon yn swydd barhaol ar sail ran-amser, sef 21 awr yr wythnos.
Gallwchgael rhagor o wybodaeth am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad sydd euhangen yn y swydd-ddisgrifiad.
NODER: Cynhelir y ganolfan asesu ar 8, Awst 2019.