A ydych chi'n gyfathrebwr da gyda dawn greadigol i rannu gwybodaeth yn hawdd ac i ystod eang o gynulleidfaoedd? Yna, ymunwch a'n Tim Cyfnewidfa Arfer Da ar gyfle profiad gwaith lle bydd eich sgiliau trefnu anhygoel yn allweddol i gyflawni ein rhaglen o ddigwyddiadau. Bydd angen i chi reoli sawl digwyddiad ar yr un pryd, a allai fod ar wahanol adegau o ran cynllunio, cyflenwi neu rannu gwybodaeth ar ol y digwyddiad.
Bydd angen i chi ddysgu'n gyflym ac addasu i heriau newydd. Gallai'r ystod eang o'r hyn yr ydym yn ei gwmpasu olygu newid rhwng pynciau mor amrywiol a seiberddiogelwch a gweithio mewn partneriaeth rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn yr un prynhawn. Bydd angen i chi ddangos sutrydych yn addasu i ddysgu am bynciau newydd yn gyflym.
Mae meithrin cydberthnasau y gellir ymddiried ynddynt yn rhan allweddol o'n llwyddiant, ac mae ein rhanddeiliaid yn barod irannu'r hyn a wyddant, oherwydd eu bod yn ymddiried ynom. Mae ein rhanddeiliaid yn cynnwys cydweithwyr archwilio o fewn Swyddfa Archwilio Cymru, ac ystod eango bartneriaid ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat, a'r 3ydd sector. Bydd angen i chi ddweud wrthym am sut rydych chi wedi gweithio'n llwyddiannus i ddatblygu perthnasoedd dibynadwy.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cyfrifoldebau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol yn y swydd-ddisgrifiad. Amdrafodaeth anffurfiol am y swydd cysylltwch a'r Pennaeth Cyfnewidfa Arfer Da, Chris Bolton ar 029 20320662 neu 07879 848667