Oes gennych chi lygad am fanyldeb, sgiliau pobl dda ac yn awyddus i ddatblygu'n barhaus?
Meddu ar gefndir academaidd rhagorol, gyda phrofiad o gydbwyso gwahanol gyfrifoldebau ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth i wasanaethau cyhoeddus a chymunedau yng Nghymru?
Yna efallai mai ein rhaglen Hyfforddeion Graddedig yw'r cyfle perffaith i chi.
Byddwch yn astudio i fod yn gyfrifydd siartredig gyda Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr (ICAEW), hyn i gyd wrth weithio i ddarparu gwasanaethau archwilio ochr yn ochr â'n timau ledled Cymru.
Mae gennym swyddi gwag yn gweithio gyda'n tîm yn y Gogledd yn ogystal â swyddi gwag yn y De a’r Gorllewin.
Mae ein hyfforddiant o'r radd flaenaf yn cael ei ariannu'n llawn, tra bod ein rhaglen waith yn caniatáu aseiniadau a secondiadau ar draws ystod eang o gleientiaid, lleoliadau a chyrff cyhoeddus. P'un a ydych chi'n gweithio gydag awdurdod lleol, bwrdd iechyd neu wasanaeth tân, does dim dau ddiwrnod yn debygol o deimlo'r un fath!
Mae digon o amrywiaeth yn y ffordd rydym yn gweithio hefyd – mae staff yn gweithio gartref, yn mynychu'r swyddfa, ac yn ymweld â safleoedd cleientiaid. Bydd angen i chi drefnu eich teithio eich hun i wahanol leoliadau, ac er nad yw trwydded yrru yn hanfodol, efallai y bydd yn haws petaech yn gallu gyrru.
Mae eich lles a'ch cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn bwysig i ni, a dyna pam rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg, 33 diwrnod o wyliau blynyddol (heb gynnwys gwyliau banc) ochr yn ochr â gwyliau astudio wedi'u hariannu'n llawn.
Gwnewch gais heddiw a dechreuwch ar eich siwrnai tuag at newid wyneb y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Mae rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad ar gael yn ein pecyn recriwtio.
Am drafodaeth anffurfiol am y swydd cysylltwch â Sian Grainger ar 029 2032 0547
Dyddiad cau: 23 Ionawr 2022